Esquerra Republicana de Catalunya

Esquerra Republicana de Catalunya
Chwith Weriniaethol Catalwnia
Ideoleg Asgell-chwith/Annibyniaeth
Sefydlwyd 1931
Arweinydd presennol Oriol Junqueras
Grŵp Senedd Ewrop Gwyrdd-Gynghrair Rhydd Ewrop (EFA)
Gwefan http://www.esquerra.cat/

Plaid genedlaetholgar, adain-chwith[1] yn anelu at annibyniaeth Catalwnia yw'r Esquerra Republicana de Catalunya (Catalaneg), yn golygu Chwith Weriniaethol Catalwnia. ERC neu Esquerra (Chwith) yn fyr.[2][3]

Mae canran uchel o aelodaeth Esquerra, fel nifer o bleidiau Catalanaidd eraill sy'n ceisio annibyniaeth, o'r farn nad Cymuned Ymreolaethol Catalwnia yn unig sy'n ffurfio'r genedl Gatalanaidd, ond hefyd y tiriogaethau eraill lle siaredir Catalaneg, a elwir y Països Catalans ("Y Gwledydd Catalanaidd’’). Maent yn cynnwys y rhan fwyaf o Wlad Falensia , yr Ynysoedd Balearig, rhan o Aragón a Rosellón yn Ffrainc, a elwir yn Ogledd Catalwnia. Mae Esquerra yn sefyll yn etholiadau neu â phresenoldeb trwy’r ardaloedd yma.[4]

Arweinydd presennol y blaid yw Oriol Junqueras, mae gan ERC aelodau yng Nghyngres a Senedd Sbaen a Parlament de Catalunya (Senedd Catalwnia). Mae ei dau aelod o Senedd Ewrop sydd yn eistedd yn grŵp Cynghrair Rhydd Ewrop) gyda chynrychiolwyr pleidiau gwyrddion a chefnogwyr annibyniaeth o sawl gwlad yn cynnwys Plaid Cymru a'r SNP.

  1. Ari-Veikko Anttiroiko; Matti Mälkiä (2007). Encyclopedia of Digital Government. Idea Group Inc (IGI). tt. 394–. ISBN 978-1-59140-790-4.
  2. Guibernau, Montserrat (2004), Catalan Nationalism: Francoism, transition and democracy, Routledge, p. 82
  3. Hargreaves, John (2000), Freedom for Catalonia?: Catalan Nationalism, Spanish Identity and the Barcelona Olympic Games, Cambridge University Press, p. 84
  4. Jaume Renyer Alimbau, ERC: temps de transició. Per una esquerra forta, renovadora i plural (Barcelona: Cossetània, 2008).

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by razib.in